Dawnsio Gwerin Llanymddyfri     llandoveryfolkdancing.co.uk

Crynodeb

Dancing at Dolau Bran

Mae Grwp Dawnsio Gwerin Llanymddyfri’n defnyddio nifer fawr o ‘alwyr’ (arweinwyr y sesiynau dawnsio) sy’n tynnu ar amrywiaeth o draddodiadau gwerin. Mae rhagor o fanylion am hyn ac am leoliadau i'w gweld yn ein rhaglen.

Gyda rhai eithriadau, rym ni’n cwrdd yn rheolaidd ar drydedd nos Wener pob mis (heblaw mis Awst). Mae’r dawnsio’n dechrau tua 7.30pm ac mae sesiynau Dolau Brân yn gorffen tua 10.30pm a’r digwyddiadau mwy’n parhau tan yn hwyrach.

Lluniaeth

Digwyddiadau bach: Mae teisennau cartref a diodydd poeth ac oer ar gael yn ystod yr egwyl. Gall digwyddiadau mwy amrywio ond fel arfer bydd brechdanau a theisennau ar gael gyda the a choffi.

Tywydd Gwael

O bryd i’w gilydd oherwydd tywydd gwael, bydd yn rhaid canslo sesiwn. Os hoffech wybod a fydd sesiwn yn digwydd neu beidio, mae croeso i chi gysylltu â ni ar un o’r rhifau ffôn uchod.

Pwyllgor

Cynhelir cyfarfod blynyddol ym mis Hydref. Byddwn yn hysbysebu’r digwyddiad ac mae croeso i bawb. Mae cofnodion ar gael gan yr Ysgrifennydd.

2008-09

Cadeirydd: Mr John Couch
Trysorydd: Mrs Jean Hughes
Ysgrifennydd: Mrs Kim Turtle
Lluniaeth: Mrs Penny Davies