|
||
|
Dolau Bran Hall
Ystafell fach yw hon ac yma fyddwn ni’n cwrdd fel arfer. Mae’r neuadd ynghlwm wrth yr unig dy ar y safle. Fel arfer mae modd parcio’n weddol agos.
O’r Dwyrain: Wrth ddod i mewn i Lanymddyfri ar yr A40 o gyfeiriad Aberhonddu, trowch i’r dde yn syth ar ôl archfarchnad Somerfield a chyn dod at y bont. O’r Gorllewin: Wrth ddod i mewn i Lanymddyfri o gyfeiriad Llandeilo, croeswch y rheilffordd, a dilynwch yr A40 trwy’r dref i gyfeiriad Aberhonddu. Trowch i’r chwith ar ôl croesi’r bont. O’r Gogledd-Ddwyrain: Wrth ddod i mewn i Lanymddyfri ar yr A483 o gyfeiriad Llanfair-ym-Muallt, trowch i’r chwith i’r B4344 (Stryd Cerrig). Dilynwch hon i’r gwaelod, yna troi i’r chwith i’r A40 a dilyn y cyfarwyddiadau uchod.
Gwesty’r Castell
Gwesty mawr a phrysur yng nghanol Llanymddyfri yw hwn sydd â'i gefn at y prif faes parcio.
Neuadd Goffa Rhys Prichard
Neuadd liw samwn ar yr A40 heb fod ymhell o ganol Llanymddyfri. Mae ar ochr ddeheuol Heol Aberhonddu gyferbyn â siop sglodion y Trawler.
|
||
|
|