Dawnsio Gwerin Llanymddyfri     llandoveryfolkdancing.co.uk
Briff Disgrifiad

Mae Grwp Dawnsio Gwerin Llanymddyfri’n defnyddio nifer fawr o ‘alwyr’ (arweinwyr y sesiynau dawnsio) sy’n tynnu ar amrywiaeth o draddodiadau gwerin. Mae rhagor o fanylion am hyn ac am leoliadau i'w gweld yn ein rhaglen.

Gyda rhai eithriadau, rym ni’n cwrdd yn rheolaidd ar drydedd nos Wener pob mis (heblaw mis Awst). Mae’r dawnsio’n dechrau tua 7.30 pm ac mae sesiynau Dolau Brân yn gorffen tua 10.30 pm a’r digwyddiadau mwy’n parhau tan yn hwyrach.

Lluniaeth
Digwyddiadau bach: Mae teisennau cartref a diodydd poeth ac oer ar gael yn ystod yr egwyl. Gall digwyddiadau mwy amrywio ond fel arfer bydd brechdanau a theisennau ar gael gyda the a choffi.
twmpath
Alcohol
Dewch â’ch alcohol eich hun oni bai ein bod ni’n cynnal y digwyddiad yng Ngwesty’r Castell, sy’n dafarn drwyddedig).

Tywydd Gwael
O bryd i’w gilydd oherwydd tywydd gwael, bydd yn rhaid canslo sesiwn. Os hoffech wybod a fydd sesiwn yn digwydd neu beidio, mae croeso i chi gysylltu â ni ar un o’r rhifau ffôn uchod.

Committee
Cynhelir cyfarfod blynyddol ym mis Hydref. Byddwn yn hysbysebu’r digwyddiad ac mae croeso i bawb. Mae cofnodion ar gael gan yr Ysgrifennydd.

2006-07
Cadeirydd: Mr John Couch
Trysorydd: Mrs Jean Hughes
Ysgrifennydd: Mrs Kim Turtle
Lluniaeth: Mrs Penny Davies